Gair o groeso gan y Pennaeth
Croeso i chwi i wefan Ysgol Gymunedol Bro Siôn Cwilt. Lleolir Ysgol Bro Siôn Cwilt ger pentref Y Synod, rhwng Aberaeron ac Aberteifi ac fe’i cynhelir gan Awdurdod Lleol Ceredigion. Agorwyd yr ysgol ddwyieithog hon yn Ionawr 2010 o ganlyniad i gau tair ysgol sef Ysgol Gwenlli, Ysgol Llanllwchaearn ac Ysgol y Castell, Caerwedros.
Derbynnir disgyblion i’r ysgol yn y tymor sydd yn dilyn eu trydydd pen-blwydd a bellach mae yna dros 120 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar gofrestr yr ysgol. Cymraeg yw prif gyfrwng iaith cyfathrebu a dysgu Ysgol Gymunedol Bro Siôn Cwilt.
Ein nod yw i ddarparu cymuned gefnogol mewn amgylchedd hapus, Gymreig a chynhwysol, lle mae’r disgyblion yn cael eu hysgogi a’u herio i gyflawni hyd eithaf eu gallu, er mwyn cyfrannu’n gadarnhaol i’r ysgol a’r gymuned ehangach. Gwneir hyn drwy feithrin awyrgylch o barch, hunanbarch a chariad. Y plant, eu haddysg a'u lles sy’n ganolog i’r ysgol.
Ymfalchïwn yn y ffaith ein bod ni yn ysgol gyfeillgar, hapus ac agored. Rydyn yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth â’n rhieni/gwarchodwyr a Llywodarethwyr yr ysgol er mwyn i’n disgyblion gyrraedd eu llawn botensial.
“Tair ysgol yw ein trisgell; un arwydd,
Un bwriad digymell:
Dros ein plant, taenu mantell:
Un fro gu, yfory gwell”
Gareth Ioan