Canllawiau Tywydd Garw.
- Yn dilyn penderfyniad i gau’r ysgol gan y Pennaeth/Cadeirydd y Corff Llywodraethwyr byddwch yn derbyn y wybodaeth angenrheidiol drwy neges destun, tudalen Trydar a thudalen ‘Facebook’ yr ysgol.
- Bydd yna gyhoeddiad ar Radio Ceredigion (103.3 FM) ac ar wefan Awdurdod Ceredigion.
- Gan fod difrifoldeb tywydd garw yn medru gwahaniaethu o ardal i ardal, os ydych yn teimlo mewn unrhyw berygl a bod angen casglu eich plentyn, cysylltwch gyda’r ysgol.
- Er mwyn diogelwch pawb, yn ddisgyblion, rhieni/gwarchodwyr a staff yr ysgol a wnewch chi sicrhau eich bod wedi gwneud trefniadau o flaen llaw a bod rhywun yn medru casglu eich plentyn o’r ysgol ar fyr rybudd. Bydd angen hysbysu'r ysgol o'r person cyfrifol a fydd yn casglu eich plentyn os yn wahanol i'r arfer.