Croeso cynnes i chi i dudalen Dosbarth Cae Lloi Bach,Bach. (Meithrin).
Athrawon a Chynorthwywyr
Miss Janet Phillips, Mrs. Jessica Hill a Mrs.Delyth Morgan-Davies
Gwaith Cartref
Nid yw’r disgyblion yn derbyn gwaith cartref ffurfiol. Er hyn mae yna ‘apps’ a gwefannau gwych ar gael er mwyn datblygu sgiliau rhifedd a llythrennedd eich plentyn/plant. Gweler adran ‘Y Plant’ am ragor o wybodaeth.
Addysg Gorfforol
Mae sesiwn Addysg Gorfforol bob bore Iau. Gofynnwn i’r disgyblion wisgo crys T gwyn a throwsus byr du gan eu gosod mewn bag pwrpasol.
Labelu dillad
Os gwelwch yn dda a wnewch chi sicrhau eich bod wedi labelu holl ddillad ac esgidiau eich plentyn.
Thema
Thema y tymor yw 'Cyw'.
Cofiwch edrych ar ein tudalen Trydar er mwyn dilyn hynt a helynt y Dosbarth Cae Lloi Bach,Bach!