Croeso cynnes i chi i dudalen Dosbarth Cae Trolôn.
Athrawon a Chynorthwywyr
Mrs.Donna Thomas, Mrs.Gwyneth Thomas, Mrs Christine Price/Miss Gwawr Bowen.
Gwaith Cartref
Mae gwaith cartref yn cael ei osod bob Dydd Mercher a gofynnwn i’ch plentyn ei ddychwelyd i’r ysgol ar y bore Llun canlynol. Gofynnwn i’ch plentyn ddefnyddio pen neu bensil wrth gwblhau’r gwaith.
Yn ogystal mae yna ‘apps’ a gwefannau gwych ar gael er mwyn datblygu sgiliau rhifedd a llythrennedd eich plentyn. Gweler adran ‘Disgyblion’ am ragor o wybodaeth.
Llyfrau Darllen
Byddwn yn ceisio newid gweithgareddau/ llyfrau darllen eich plentyn mor aml a phosib. Gofynnwn i chi arwyddo'r llyfr cyswllt wedi i chi ddarllen gyda’ch plentyn.
Addysg Gorfforol
Mae sesiwn Addysg Gorfforol bob prynhawn Dydd Gwener. Gofynnwn i’r disgyblion wisgo crys T gwyn a throwsus byr du, gellir gwisgo tracwisg mewn tywydd oer a ‘thrainers’ pan yn derbyn gwersi ar y llain astro. Bydd angen cadw y dillad mewn bag pwrpasol.
Labelu dillad
Os gwelwch yn dda a wnewch chi sicrhau eich bod wedi labelu holl ddillad ac esgidiau eich plentyn.
Thema
Thema y Tymor yw 'Ffasiwn'.
Cofiwch edrych ar ein tudalen Trydar er mwyn dilyn hynt a helynt Dosbarth Cae Trolôn!