Croeso cynnes i chi i dudalen Dosbarth Cae Gwair.
Athrawon a Chynorthwywyr
Mrs. Ceirios Gruffudd, Mrs. Amanda McCreadie, Mrs. Angharad Harries.
Gwaith Cartref
Mae gwaith cartref yn cael ei osod bob Dydd Mercher a gofynnwn i’ch plentyn ei ddychwelyd i’r ysgol ar y bore Llun canlynol. Gofynnwn i’ch plentyn ddefnyddio pensil wrth gwblhau’r gwaith.
Yn ogystal mae yna ‘apps’ a gwefannau gwych ar gael er mwyn datblygu sgiliau rhifedd a llythrennedd eich plentyn. Gweler adran ‘Disgyblion' am ragor o wybodaeth.
Llyfrau Darllen
Byddwn yn ceisio newid gweithgareddau/ llyfrau darllen eich plentyn mor aml â phosib. Gofynnwn i chi arwyddo'r llyfr cyswllt wedi i chi ddarllen gyda’ch plentyn.
Addysg Gorfforol
Mae sesiwn Addysg Gorfforol bob prynhawn Iau. Gofynnwn i’r disgyblion wisgo crys T gwyn a throwsus byr du, gellir gwisgo tracwisg mewn tywydd oer a ‘thrainers’ pan yn derbyn gwersi ar y llain astro. Bydd angen cadw'r dillad mewn bag pwrpasol.
Labelu dillad
Os gwelwch yn dda a wnewch chi sicrhau eich bod wedi labelu holl ddillad ac esgidiau eich plentyn.
Thema
Thema y Tymor yw 'Matilda'.
Cofiwch edrych ar ein tudalen Trydar er mwyn dilyn hynt a helynt Dosbarth Cae Gwair!