Llysgenhadon Ifanc Efydd
Mae ein Llysgenhadon yn blant blwyddyn 5 a 6 ac wedi eu hethol gan ddisgyblion eu dosbarth. Maent yn derbyn hyfforddiant diwrnod cyfan gan Swyddogion 5x60 Awdurdod Ceredigion gan yna fynd ati i drefnu, ysbrydoli, arwain a hybu gweithgareddau corfforol o fewn a thu hwnt yr ysgol. Ein Llysgenhadol Efydd sydd yn cynnal Clwb Chwaraeon o fewn yr ysgol i ddisgyblion blynyddoedd 2 i 6.
Eleni, Osian Taylor a Lili Evans sydd wedi eu hethol i fod yn Llysgenhadon Ifanc Efydd Ysgol Gymunedol Bro Siôn Cwilt.