Cyngor Ysgol Bro Siôn Cwilt
Croeso i dudalen y Cyngor Ysgol 2016/2017.
Hoffech wybod mwy am ein Cyngor Ysgol?
Rydym yn ddisgyblion o bob oed, Dosbarth Cae Lloi Bach (Derbyn) i Ddosbarth Trolôn (Bl. 5 a 6), sydd wedi cael ein hethol ar gychwyn blwyddyn gan blant ein dosbarthiadau i’w cynrychioli yng nghyfarfodydd y Cyngor Ysgol. Mae gan bob dosbarth flwch ac mae pob croeso i’r plant gofnodi ar bapur eu sylwadau neu syniadau ar gyfer yr ysgol gan yna eu postio ym mlwch y Cyngor Ysgol. Rydym yn cyfarfod yn fisol o dan oruchwiliaeth Ms.N.Lloyd Thomas er mwyn trafod cynnwys y bocsys. Wedi’r cyfarfod, mae Cadeirydd Cyngor Ysgol Bro Siôn Cwilt yn adrodd yn ôl i weddill yr ysgol.
Rydym hefyd yn trefnu gweithgareddau amrywiol, cyfweld ar gyfer swyddi sydd yn codi o fewn yr ysgol ac mae’r Cadeirydd, Trysorydd a’r Ysgrifennydd yn adrodd i’r Corff Llywodraethol o leiaf unwaith y flwyddyn.
Dyma ni!
Cadeirydd: Ffion Davies
Is-gadeirydd: Gwenllian Evans
Trysorydd: Preston Wells
Is-drysorydd: Thomas Mason
Ysgrifennydd: Siôn Lloyd
Is-ysgrifennydd: Osian Taylor
Cynrychiolwyr o bob blwyddyn:
Blwyddyn 4 - Beri Tomkins a Tomos McGinty
Blwyddyn 3 - Ianto Lloyd a Anest Jones
Blwyddyn 2 - Rhun Richards a Aimee Tudball
Blwyddyn 1 - Logan Bliss a Nina Ladd
Derbyn - Morgan Davies a Beca Williams